Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol
Cartref
Beth yw'r PDdR
Partneriaid
Porth-E
Arsyllfa
Calendr
Cysylltu â ni
English
Rydych chi yma:  
  • Cartref
   
Hawlfraint ac Ymwadiad 

Hawlfraint

Mae’r hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon, oni ddywedir fel arall, yn eiddo i’r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol. Mae’r deunydd hyn yn cynnwys logo’r Bartneriaeth a’r holl destun. Cymerwyd y delweddau o ffynonellau stoc ddihawlfraint neu mae’r hawlfraint arnynt yn eiddo i’r artist gwreiddiol ac maent yn cael eu defnyddio â’i ganiatâd.

Ceir ailddefnyddio deunydd sydd wedi’i ddiogelu gan hawlfraint ar yr amod y cydnabyddir mai’r Bartneriaeth yw'r awdur ac na wneir unrhyw newidiadau. Nid yw’r caniatâd hwn yn ymestyn i unrhyw ddeunydd y mae’r hawlfraint arno’n eiddo i unrhyw drydydd partïon. Rhaid cael caniatâd i ddefnyddio’r fath ddeunydd oddi wrth y trydydd parti angenrheidiol.

Mae defnyddio unrhyw ddeunydd ar y wefan hon er elw neu unrhyw fath o fantais fasnachol wedi’i wahardd yn llwyr oni chafwyd caniatâd ysgrifenedig ffurfiol ymlaen llaw.


Ymwadiad

Mae’r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol wedi gwneud, ac yn dal i wneud, pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, yn gyson ac yn gyfredol. Nid yw’r Bartneriaeth o dan unrhyw amgylchiadau’n derbyn atebolrwydd am unrhyw anghyfleustra, niwed neu golled, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a achoswyd trwy ddibynnu ar y wefan hon.


Dolenni

Ar y wefan hon ceir dolenni i wefannau allanol eraill, ac nid y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol sy’n rheoli na gweithredu’r rhan fwyaf o’r rhain. Nid yw’r Bartneriaeth yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am gynnwys y fath wefannau. Nid yw’r Bartneriaeth o dan unrhyw amgylchiadau’n derbyn atebolrwydd am unrhyw anghyfleustra, niwed neu golled, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a all ddeillio o ddefnyddio’r fath wefannau.

Cynllunio'n Strategol Dros y Rhanbarth - Cyflawni'n Lleol

 

Hawlfraint ac Ymwadiad | Map o'r Safle 
Tîm y Bartneriaeth, Parc y Scarlets, Parc Pemberton, SA14 9UZ.  Tel : 01554 742430  Ebost : info@rlpsww.org.uk