Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol
Cartref
Beth yw'r PDdR
Partneriaid
Porth-E
Arsyllfa
Calendr
Cysylltu â ni
English
Rydych chi yma:  
  • Cartref
   
Yr Anghenion Sgiliau ar gyfer y Dyfodol sydd i’w Trafod yn y Prif Seminarau 

Dydd Mercher, 21ain Rhagfyr 2011

Mae anghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol yn cael eu trafod mewn cyfres o seminarau ar draws De-orllewin Cymru.

Bwriedir y sesiynau hanfodol a llawn gwybodaeth ar gyfer arweinwyr strategol y rhanbarth ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, arweiniad a chymorth busnes.

Drwy waith Beverley Wilson-Smith sef Eiriolwr Darparwyr y Rhwydwaith Rhanbarthol sy’n rhan o’r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol, cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru a’i Chronfa Blaenoriaethau Sector er mwyn i ranbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru gynnal cyfres o Seminarau Cyngor Sgiliau Sector – cyfres a gaiff ei lansio ym mis Ionawr 2012.

Wrth sôn am y digwyddiadau, dywedodd yr eiriolwr: “Bydd y seminarau hyn yn galluogi clystyrau o Gynghorau Sgiliau Sector i roi golwg gyffredinol ar eu hasesiadau o’r sgiliau y mae/bydd cyflogwyr yn galw amdanynt heddiw ac yn y degawd nesaf.”

Bydd y seminarau, a gaiff eu cynnal rhwng 9am a 1.30pm, ac a ddilynir gan ginio bwffe, yn canolbwyntio ar y clystyrau Sector canlynol:

  • Lantra, People 1st, Improve, Skillsmart Retail – y seminar i’w gynnal yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Penfro ar 19 Ionawr, 2012.

  • Cyngor Gofal Cymru, Sgiliau Iechyd (Skills for Health), Skills Active, Sgiliau er Cyfiawnder a’r Financial Skills Partnership – y seminar i’w gynnal yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod, ar 24 Ionawr, 2012.

  • Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (Energy and Utility Skills), Cogent, Summit, Asset Skills – y seminar i’w gynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ar 21 Chwefror, 2012.

  • Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, Skillset ac E-Skills – y seminar i’w gynnal yn The Village Hotel, Abertawe, ar 27 Chwefror, 2012.

  • Sgiliau Adeiladu, Semta, Proskills, Skills for Logistics, Sefydliad y Diwydiant Ceir (IMI) – y seminar i’w gynnal yn The Village Hotel, Abertawe ar 5 Mawrth, 2012.

Ychwanegodd yr eiriolwr: “Bydd pob cynhadledd yn cynnwys siaradwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes a thrafodaethau ar anghenion eu diwydiannau er mwyn hwyluso a chael gwybodaeth i gynllunio’n rhanbarthol – yn enwedig ym meysydd addysg, datblygu sgiliau, hyfforddiant, arweiniad a chymorth busnes.”

Ffurflen Archebu Seminarau’r Cyngor Sgiliau Sector

Gellir lawrlwytho’r Ffurflen Archebu o’r ddolen gyswllt uchod. Yn ogystal, gallwch weld y daflen drwy glicio YMA. I gael rhagor o fanylion, anfonwch neges e-bost at Beverley Wilson-Smith, Eiriolwr Darparwyr y Rhwydwaith Rhanbarthol, y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol, BWilson-Smith@cccpartners.org.uk.

 

Hawlfraint ac Ymwadiad | Map o'r Safle 
Tîm y Bartneriaeth, Parc y Scarlets, Parc Pemberton, SA14 9UZ.  Tel : 01554 742430  Ebost : info@rlpsww.org.uk