Hybu’r Gymraeg yng nghyd-destun Addysg i Oedolion a Dysgu Cymunedol
Dydd Mawrth 7 Chwefror 2012
Mae Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-orllewin Cymru yn cynnal digwyddiad er mwyn cefnogi unigolion sy'n ymwneud â darparu Addysg i Oedolion a Dysgu Cymunedol, ac er mwyn hybu’r Gymraeg.
Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn rhoi cipolwg ar y materion cyffredin sy'n codi o ran bod gan unigolion yr hyder i ddefnyddio'r Gymraeg; ar ganfyddiadau gan fyfyrwyr; ac ar yr arferion gorau o rannau eraill o Gymru. Byddant yn rhoi cipolwg hefyd ar sut y gallwn ni, yn y rhanbarth, gydweithio'n fwy effeithlon i gefnogi ein tiwtoriaid a'n dysgwyr i ddefnyddio rhagor ar y Gymraeg er mwyn cynorthwyo i ddarparu Addysg i Oedolion a Dysgu Cymunedol.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener, 24 Chwefror rhwng 10:00 a 15:30, a dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.
I archebu lle, cysylltwch â Thîm y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol drwy ffonio 01554 742430 neu drwy anfon neges e-bost at info@rlpsww.org.uk.