Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol
Cartref
Beth yw'r PDdR
Partneriaid
Porth-E
Arsyllfa
Calendr
Cysylltu â ni
English
Rydych chi yma:  
  • Cartref
  •  > Eiriolwr Rhanbarthol
  • Eiriolwr Rhanbarthol
  • SSC Seminars 2012
  • Cysylltiadau
   
Eiriolwr Rhanbarthol 

Mae’r rhestr a ganlyn yn amlinellu’r meysydd o weithgarwch allweddol a nodwyd ar gyfer gwaith Eiriolwr y Rhwydwaith Darparwyr Rhanbarthol:

1. I ddeillio deallusrwydd ar alw cyflogwyr am sgiliau ar lefel sector/lleol, trwy fannau cyfeirio ffurfiol a thrafodaethau anffurfiol gyda rhanddeiliaid sector/lleol;

2. Weithio fel brocer trafodaethau rhwng Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr hyfforddiant ar y galw am sgiliau gan gyflogwyr gyda’r bwriad o:

    • Greu dealltwriaeth/cytundeb cydranedig ar flaenoriaethau darparu sgiliau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol;
    • Fapio ymateb effeithiol i’r blaenoriaethau hyn gan hybu manteision cydweithredu rhanbarthol;
    • Fonitro gweithgarwch y prosiectau peilot yn y rhanbarth er mwyn dadansoddi a bwydo deallusrwydd i ddatblygu polisi a darpariaeth y dyfodol;
    • Adnabod astudiaethau achos o ddarpariaeth sydd yn arddangos arfer gorau ac arloesedd a ellid ei fabwysiadu gan ddarparwyr eraill.

 

3. I gefnogi darparwyr wrth iddynt gynllunio darpariaeth sydd yn alinio yn fwy effeithiol gyda blaenoriaethu sgiliau yn y sector gan gynnig deallusrwydd ar y galw o gyflogwyr a rhannu arfer gorau/gwersi a ddysgwyd. I hwyluso datblygiad partneriaethau strategol a chynaliadwy rhwng Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr hyfforddiant er mwyn sicrhau bod y galw yn ymatebol yn y tymor hir ac wedi ei seilio ar y blaenoriaethau a nodwyd gan y CauSS.

Am fanylion pellach ar y gwaith hwn, cysylltwch â Beverley Wilson-Smith.

 

Hawlfraint ac Ymwadiad | Map o'r Safle 
Tîm y Bartneriaeth, Parc y Scarlets, Parc Pemberton, SA14 9UZ.  Tel : 01554 742430  Ebost : info@rlpsww.org.uk